Y tu hwnt i Gyflwyno: Sut i ‘Ymgysylltu’ â Chynulleidfa Ehangach - 3 Tachwedd
Hyfforddwr: Y Dr Kevin Hollis, Techniquest
Bydd y cyflwyniad yn y gweithdy hwn yn ymgorffori elfennau o sgiliau theatr gorfforol a hyfforddiant llais ar y cyd ag ystyriaeth fwy academaidd ar sut i saernïo gweithgaredd a chadw sylw cynulleidfa. Bydd y gweithdy’n canolbwyntio ar gynghorion a thechnegau ynghylch arddulliau cyflwyno a’r ffordd orau i gyflwyno i gynulleidfa y tu allan i’r gymuned academaidd. Rhoddir cynghorion ar sut i draddodi anerchiad diddorol i gynulleidfa anacademaidd a sut i daro’r lefel gywir wrth gyflwyno’ch ymchwil i’r gynulleidfa. Cynigir llawer o gyfleoedd drwy’r gweithdy i gyd i’r aelodau roi eu medrau ar waith a hynny mewn awyrgylch cefnogol a diogel.
Mae’r agweddau a drafodir yn cynnwys:
· Pam nad yw arddull cyflwyniad academaidd trylwyr yn gweithio gyda chynulleidfa gyhoeddus
· Darganfod a defnyddio amrywiaeth o arddulliau rhyngweithiol
· Sut i ddefnyddio lle cyflwyno i gadw’ch statws chi a sylw’r gynulleidfa
· Creu amrywiaeth yn y llais er mwyn cadw sylw’r gynulleidfa