Telerau Defnyddio

Nacâd

Mae rhaglen Goleufa Cymru’n cael ei harwain gan Brifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â Phrifysgol Morgannwg, BBC Cymru Wales, Amgueddfa Cymru - National Museum Wales a Techniquest. Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth yn nhudalennau gwefan Goleufa Cymru yn gywir. Serch hynny, mae’r cynnwys yn gallu newid ac nid yw Goleufa Cymru yn gallu derbyn atebolrwydd dros gywirdeb yr wybodaeth sy’n cael ei chyflwyno ar unrhyw adeg benodol. Mae Goleufa Cymru yn cadw’r hawl i wneud newidiadau heb roi gwybod.

Defnyddio’r Wefan

Mae’r holl destun, yr holl ddelweddau a’r holl gynnwys arall ar y wefan hon o dan hawlfraint Goleufa Cymru oni nodir yn wahanol yn bendant. Caniateir eu lawrlwytho neu eu copïo at ddibenion addysgu, gweinyddu ac ymchwilio mewn prifysgolion, neu at ddibenion personol, anfasnachol yn unig. At unrhyw ddiben arall y tu hwnt i hyn, RHAID sicrhau caniatâd Goleufa Cymru.

Lle bo modd, mae’r deunydd wedi’i gyhoeddi o dan hawlfraint Creative Commons, sef Gweithiau-Priodoli-Anfasnachol-Dim-Deilliadau a bydd yn cael ei ddynodi â’r logo isod. Gan fod llawer o’r deunydd wedi’i gynhyrchu gan bobl eraill, nid y cyfan o’r deunydd fydd wedi’i ddynodi o dan drwydded briodol Creative Commons.

Creative Commons LicenseMae’r gwaith hwn wedi’i drwyddedu o dan drwydded Creative Commons

Os hoffech atgynhyrchu cynnwys o’r wefan mewn unrhyw ffordd arall, neu at unrhyw ddiben arall, rhaid ichi gysylltu’n gyntaf â Goleufa Cymru i gael caniatâd.

Cysylltiadau Allanol

Er hwylustod ymwelwyr â’r wefan yn unig y mae cysylltiadau â gwefannau allanol yn cael eu darparu. Nid yw Goleufa Cymru yn gyfrifol am y cynnwys a welir ar wefannau allanol ac nid yw o reidrwydd yn ategu’r safbwyntiau y maen nhw’n eu mynegi nac yn gwarantu bod yr wybodaeth y maen nhw’n ei darparu yn gywir .

Feirysau

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y cynnwys y gellir ei lawrlwytho yn rhydd rhag feirysau. Ni all Goleufa Cymru dderbyn atebolrwydd dros ddifrod sy’n codi o haint drwy gyfrwng feirws.

Nodau Masnach

Mae pob nod masnach ar y wefan hon yn parhau yn eiddo i’w priod berchnogion ac at ddibenion adnabod yn unig y maen nhw’n cael eu defnyddio.