Pobl ifanc yn datgelu eu gwreiddiau gan droi’n archaeolegwyr mewn prosiect newydd
Daeth 25 o bobl ifanc o Gaerdydd, Cymoedd y De a Bro Morgannwg yn archaeolegwyr a dysgu am hanes eu cymuned drwy gymryd rhan yn ‘Adennill ein Gorffennol’, prosiect wedi’i leoli ym mhentref canoloesol Cosmeston ym Mro Morgannwg.
Yn ystod haf 2009 bu’r bobl ifanc yn cloddio ac yn archwilio rhan o safle’r maenordy canoloesol o’r enw Castell Cosmeston gan fynd ati’n ofalus i gofnodi’r stratigraffeg, y nodweddion a’r arteffactau er mwyn canfod mwy am hanes y safle a bywydau’r rhai a allai fod wedi byw yno. Recordiodd y bobl ifanc ddyddiadur cloddio hefyd a thynnu lluniau.

Yn nes ymlaen, dyluniodd y disgyblion gynnwys blwch canfod archaeoleg cymunedol a gafodd ei ddosbarthu i lawer o ysgolion er mwyn ehangu eu cyfle i ddysgu am hanes ac archaeoleg Cosmeston.
Ymchwilwyr o’r Ysgol Hanes ac Archaeoleg ym Mhrifysgol Caerdydd oedd trefnwyr y prosiect, a fu’n cydweithio ochr yn ochr ag aelodau o Gyngor Bro Morgannwg i gynllunio a chynnal y digwyddiad. Dywedodd arweinydd y prosiect, yr Athro John Hines:
‘Drwy archaeoleg, gall yr aelodau deimlo’u bod yn cymryd rhan mewn prosiect sydd wrthi’n llythrennol yn ychwanegu at wybodaeth drwy ddatgelu a chodi gwybodaeth newydd: nid dim ond "dysgu" yr hyn sy’n hysbys yn barod. Mae treftadaeth yn amwynder y mae gan bawb gyfran ynddi, ac roedden ni’n gobeithio y byddai’r broses yn arwain at barch ymhlith yr aelodau i’r dulliau ar gyfer cyrchu a phrosesu gwybodaeth hanesyddol ac archaeolegol.’
Roedd manteision y prosiect yn cael eu teimlo nid yn unig ymhlith yr aelodau ifanc eu hunain, a ddywedodd eu bod wedi cael ysbrydoliaeth a hwyl, ond hefyd ymhlith yr ymchwilwyr ac yn arbennig felly ymhlith y myfyrwyr prifysgol a fu’n helpu. Dywedodd yr Athro Hines:
‘Roedd hyder y myfyrwyr fel pe bai’n cynyddu i gyfateb i’r cyfrifoldeb a’r disgwyliadau arnyn nhw wrth i’r rheiny arwain at newid agwedd. Fe ddaethon nhw’n fwy aeddfed a chyfrifol wrth weithio ochr yn ochr â’r aelodau iau ar y safle drwy’r cynllun.’
Ychwanegodd:
‘Roedd y gallu i weithio’n ymarferol mewn hanes lleol ac ymgymryd â hyfforddiant, cyfrifoldeb a chefnogaeth mewn amgylchedd newydd oedd yn anghyfarwydd i’r aelodau, yn arwain at brofiad dysgu gwerthfawr i bawb.’
Roedd y bobl ifanc ar eu hennill drwy gael mwy o gyfle i ddysgu a thrwy godi ymdeimlad o berchnogaeth ar eu treftadaeth leol, ac fe gododd y prosiect broffil y brifysgol yn y gymuned, gan wneud i fywyd academaidd ymddangos fel pe bai’n fwy agored i’r bobl ifanc. Mae’r ymchwilwyr yn gobeithio y bydd hyn yn annog rhagor o fyfyrwyr i astudio archaeoleg yn y brifysgol.
Yn olaf, helpodd y profiad y brifysgol drwy roi adborth i’r ymchwil. Byddai’r Athro Hines yn argymell y profiad i ymchwilwyr eraill, ac mae’n eu hannog nhw i gynnwys y gymuned leol yn eu gwaith. Dywedodd:
‘Weithiau mae safbwynt pobl nad ydyn nhw’n arbenigwyr yn gallu bod yn eithriadol o fuddiol, yn enwedig mewn gwaith ymchwil archaeolegol gan eu bod nhw’n gallu ysgogi persbectif newydd ar fater neu safbwynt penodol a herio ffyrdd o feddwl sydd wedi ennill eu plwyf hefyd.’