Plant yn ymateb i her newid hinsawdd drwy ddylunio’u hanifeiliaid eu hunain, mewn prosiect arloesol newydd
Ym 1859, nododd Charles Darwin ei ddamcaniaeth ynghylch Esblygiad drwy ddetholiad naturiol. Mae ei syniad arloesol, sef bod anifeiliaid yn newid ac yn esblygu dros amser yn sgil addasu i amgylchedd sy'n newid, wedi helpu i egluro’r myrdd o rywogaethau hardd sy'n digwydd ym myd natur. Mae hyd yn oed wedi helpu pobl i lunio esblygiad anifeiliaid, megis yn achos gwartheg a gwahanol fridiau o gŵn. Gan fod y Ddaear yn wynebu'r posibilrwydd o newid o bwys yn yr hinsawdd, mae'n debyg y bydd anifeiliaid, yn ogystal â phobl, yn gorfod addasu i heriau gwahanol. Meddwl am sut roedd anifeiliaid anwes ac anifeiliaid fferm modern yn edrych yn y gorffennol - a sut rydyn ni wedi’u llunio fel y maen nhw heddiw - oedd prif ffocws prosiect diweddar a oedd yn anelu at addysgu pobl ifanc am esblygiad.
Bu tri grŵp o fyfyrwyr 14-19 oed o Gymru yn gweithio ochr yn ochr ag archaeolegwyr, gwyddonwyr ac artist i ddysgu popeth am theori arloesol Charles Darwin ynghylch esblygiad drwy ddetholiad naturiol. Gofynnwyd iddyn nhw feddwl sut y bydd anifeiliaid anwes yn edrych ymhen mil o flynyddoedd? Oherwydd newid yn yr hinsawdd a phoblogaeth gynyddol, a fydd arnon ni angen anifeiliaid anwes llai o faint, glanach, a’r rheiny’n gallu cael eu cludo - efallai meicro-gi yr un maint â ffôn symudol a hwnnw’n pasio’i garthion mewn pelenni bach persawrus? O ran yr anifeiliaid rydyn ni’n eu bwyta, gan fod lefelau'r môr yn codi efallai y bydd angen gwartheg dŵr sy’n gallu nofio a bwyta gwymon!

Defnyddiodd y bobl ifanc syniadau Darwin i ddychmygu a chreu anifeiliaid y dyfodol. Mewn gweithdy diwrnod fe fuon nhw’n archwilio sut mae anifeiliaid wedi esblygu o’u hynafiaid gwyllt i roi’n hanifeiliaid anwes a’n bwyd ni heddiw – o’r blaidd i’r milgi bach ac o’r fuwch wyllt enfawr, yr ‘Auroch’ i’r buchod sy’n canu yn hysbysebion menyn ‘Anchor’. Fe fuon nhw’n edrych hefyd ar rai o'r bridiau o gŵn, gwartheg a defaid sy'n arbennig i Gymru. Buon nhw’n archwilio esgyrn anifeiliaid y gorffennol a'r presennol, gan ddysgu’r ffeithiau am sgerbydau a pham mae rhai anifeiliaid yn siapiau mor rhyfeddol. Aeth y myfyrwyr ati i ddylunio sut roedden nhw’n credu y byddai anifeiliaid yfory yn edrych, a chafodd y dyluniadau hyn eu casglu a'u defnyddio i gynhyrchu arddangosfeydd amgueddfa a gwefan. Cafodd y darluniau eu harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o fis Chwefror i fis Ebrill 2010.
Roedd y myfyrwyr yn dod o Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, ac o ITEC Training Solutions yng Nghaerdydd a Sant Alban. Cafodd yr ysgolion hyn eu dewis am fod y myfyrwyr yno yn aml yn wynebu rhwystrau sy’n eu hatal rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau, naill ai am nad oes adnoddau a chyfleusterau i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu o safon, neu, yn achos yr ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg, am fod gweithgareddau ymgysylltu fel arfer yn cael eu cynnal yn uniaith Saesneg.
Yn ogystal â chynnig heriau a phrofiad ymarferol creadigol, roedd y tri gweithdy’n cynnwys dadleuon moesegol am ein perthynas ag anifeiliaid yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol, a’r cyfrifoldebau sy'n ein hwynebu fel cyfryngau ar gyfer newid biolegol.
Cafodd y prosiect ei gyflwyno gan fyfyrwyr a staff Ysgol y Biowyddorau a’r Ysgol Hanes ac Archaeoleg ym Mhrifysgol Caerdydd. Bu arlunydd arobryn, Paul Evans, hefyd yn cydweithio â swyddogion addysg o Amgueddfa Cymru, a rheolwr STEM yn Techniquest. Mae arweinydd y prosiect, y Dr Jacqui Mulville, yn ymchwilydd yn Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd. Dywedodd:
'Roedden ni'n awyddus i ystyried ffyrdd newydd o ymgysylltu â phobl drwy ddod â ffeithiau gwyddonol a lluniadau a meddwl yn greadigol at ei gilydd i greu ffordd arloesol i ysbrydoli pobl ifanc, gan godi hyder myfyrwyr a staff y brifysgol i fynd ar drywydd ymgysylltu cyhoeddus.'
'Y peth gorau am y prosiect oedd gweld creadigrwydd yn llifo o'r bobl ifanc a fu’n cymryd rhan a brwdfrydedd yr athrawon i’r prosiect. Gwnaeth yr holl ôl-raddedigion elwa o'r sgiliau a'r hyder a gawson nhw yn ystod y prosiect ac roedd yr arddangosfa’n llwyddiant mawr.'
Mae manteision y prosiect i gael eu rhannu gyda phlant eraill ar draws ysgolion yng Nghymru, gan fod yr Amgueddfa Genedlaethol wedi cynhyrchu blychau i’w benthyca a phecynnau estyn allan sy’n cynnwys sgerbydau llawer o anifeiliaid o’r gorffennol a'r presennol.
Dolenni Diddorol
Paul Evans www.origin09.org.
Arweinydd: Y Dr Jacqui Mulville, Ysgol Hanes ac Archaeoleg Prifysgol Caerdydd