Mae visualise: reloaded wedi cael llwyddiant ysgubol ddwywaith yng ngwyl ymylol yr Edinburgh Fringe. Dyma sioe chwareus sy'n cyfuno theatr gorfforol, arddangosiadau gwyddoniaeth byw, delweddau wedi'u taflunio a cherddoriaeth. Mae'r technoclowns yn creu byd dirgel heb eiriau, gyda'u gwybodaeth arbenigol am ffiseg a chan ddefnyddio gwrthrychau cyffredin, fel balwns, biniau sbwriel a phapur toiled, mewn ffyrdd anarferol.
Gan nad oes iaith, mae llawer llai o esbonio a mwy o archwilio, felly mae'r sioe'n addas i rai o bob oed. Dewch draw i ddysgu mwy am wyddoniaeth yn ein bywydau bob dydd.
‘An altogether different kind of science class... inventive, well-imagined... keeps a smile on your face from start to finish.’ (The Scotsman)
‘...every part done seamlessly and with cunning genius. It’s the science lesson children will so enjoy.’ (The Herald)
Gyda chefnogaeth Goleufa Cymru.
I archebu’ch lle, ewch i: http://www.wmc.org.uk/ticketing/prodDetail.aspx?tessID=19369&langCode=cy