Digwyddiadau

Diary on background of pencils

Dysgwch am ddigwyddiadau hyfforddi a digwyddiadau rhwydweithio

Darllenwch ein Newyddion Diweddaraf

Mae rownd gyntaf Grant Cynnwys y Cyhoedd 2011 gan y Sefydliad Ffiseg yn derbyn ceisiadau yn awr.
Mae deg grant digwyddiadau cyhoeddus ar gael i Sefydliadau Addysg Uwch y Deyrnas Unedig i ddatblygu a rhedeg digwyddiad cyhoeddus wedi’i ysbrydoli gan Gemau Olympaidd 2012.
Roedd yn dda iawn gan Oleufa Cymru a Vitae groesawu mwy na 100 o gynadleddwyr a chyflwynwyr o sefydliadau ledled Cymru a de-orllewin Lloegr i Ganolfan Mileniwm Cymru i’r gynhadledd hon.
Mae visualise: reloaded wedi cael llwyddiant ysgubol ddwywaith yng ngwyl ymylol yr Edinburgh Fringe. Dyma sioe chwareus sy'n cyfuno theatr gorfforol, arddangosiadau gwyddoniaeth byw, delweddau wedi'u taflunio a cherddoriaeth.
Mae ymgysylltu cyhoeddus yn dod yn rhan fwyfwy pwysig o waith ymchwil. Bydd y gynhadledd hon yn gyflwyniad i’r maes, gyda chyflwyniadau gan arianwyr, academyddion a rhai sy’n cymryd rhan mewn prosiectau ymgysylltu.
Bydd y gystadleuaeth yn rhedeg yn ystod y gynhadledd Ymgysylltu Cyhoeddus sydd wedi'i threfnu gan Oleufa Cymru a Vitae ddydd Mawrth 6 Gorffennaf 2010. Caiff pob cynnig ei ddangos yn yr arddangosfa dros ginio yng Nghyntedd Awen yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Mae Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) a Chanolfan Gydlynu Genedlaethol Ymgysylltu Cyhoeddus yn cyflwyno digwyddiad sy’n rhoi hwb i blannu ymgysylltu cyhoeddus yn gadarn ar draws y celfyddydau a’r dyniaethau.
Rydyn ni’n chwilio am staff a myfyrwyr prifysgol i helpu i dreialu Pecyn Cymorth newydd ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd, sydd wedi’i ddatblygu gan Ganolfan Gydlynu Genedlaethol Ymgysylltu Cyhoeddus.
Cyfarfu rhyw 30 o Aelodau’r Cynulliad ag arbenigwyr o Oleufa Cymru a Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru yn adeilad y Cynulliad Cenedlaethol, y Senedd, er mwyn cael gwybod sut mae prifysgolion yng Nghymru’n arwain y ffordd o safbwynt gweithio gyda’r cyhoedd.
Mae gennyn ni ddiddordeb ym marn staff sydd mewn sefydliadau sy’n rhan o’r fenter BPE a’r rhai nad ydyn nhw yn y sefydliadau hynny, am ein bod ni am weld yr hyn sy’n digwydd ar draws y sector, felly llenwch yr arolwg ble bynnag y boch yn gweithio.