Newyddion

Paper plane made from newspaper

Darllenwch newyddion diweddaraf Goleufa Cymru

Digwyddiadau

Bydd y tudalen hwn yn cynnwys manylion digwyddiadau sy’n cael eu trefnu gennyn ni neu gan bobl eraill. Bydd y rhain yn cynnwys hyfforddiant, rhwydweithio a chyfleoedd i ymuno â gweithgareddau ymgysylltu cyhoeddus.

Os oes gennych chi ddigwyddiad yr hoffech ei hysbysebu ar y tudalen hwn, cysylltwch â ni

NetworkingDigwyddiad Rhwydweithio

Public EventDigwyddiad Cyhoeddus

TrainingDigwyddiad Hyfforddi

Bydd cyfarfod haf Science Alliance Cymru yn cael ei gynnal ar 9 Mehefin yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Dyma gyfle i gyfarfod â phobl eraill o Gymru sydd â diddordeb mewn ymgysylltu cyhoeddus ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yn yr ystyr ehangaf. I gael rhagor o fanylion, anfonwch neges e-bost at beacon@caerdydd.ac.uk.
Mae Rhwydwaith Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol Cyfnewidfa Ddiwylliannol Cymru yn dod â phobl at ei gilydd sy’n ymwneud â phrosiectau ymgysylltu mewn prifysgolion, grwpiau a sefydliadau cymunedol, amgueddfeydd, y cyfryngau, diwydiant preifat, a chyrff cyhoeddus.
Mae ymgysylltu cyhoeddus yn dod yn rhan fwyfwy pwysig o waith ymchwil. Bydd y gynhadledd hon yn gyflwyniad i’r maes, gyda chyflwyniadau gan arianwyr, academyddion a rhai sy’n cymryd rhan mewn prosiectau ymgysylltu.
Mae visualise: reloaded wedi cael llwyddiant ysgubol ddwywaith yng ngwyl ymylol yr Edinburgh Fringe. Dyma sioe chwareus sy'n cyfuno theatr gorfforol, arddangosiadau gwyddoniaeth byw, delweddau wedi'u taflunio a cherddoriaeth.