GwaithStori: Gwerth Defnyddio Storïau o Fywyd Go Iawn
Gemma Gibson
Dair blynedd yn ôl ymunodd Karen Lewis o Brifysgol Morgannwg â Maria Boffey o’r Rhwydwaith Maethu a, gydag arian gan Oleufa Cymru, sefydlu GwaithStori, sy’n defnyddio storïau gan bobl o bob lliw a llun gyda golwg ar greu newid. Un o’r gweithiau mwyaf llwyddiannus y maen nhw wedi’i greu yw ‘Men Who Care’, llyfryn a ddaeth i’r golwg ar ôl gweithdy tri diwrnod lle roedd gofalwyr maeth gwryw yn rhannu eu storïau a’u profiadau o fod yn Ofalwr gyda’i gilydd. Mae’r llyfryn yn cynnwys storïau personol sy’n herio’r stereoteipiau ynglŷn â dynion a gofal maeth a gall gael ei ddefnyddio ar lefel bersonol neu mewn grŵp i helpu ‘lleisiau cudd’ y lleiafrif o ofalwyr maeth sy’n ddynion. Cafodd Karen a Maria eu syfrdanu gan lwyddiant ysgubol y llyfryn, a gafodd ei lawrlwytho 20,000 o weithiau oddi ar wefan y Rhwydwaith Maethu yn ychwanegol at y cyfanswm trawiadol o 5,000 o gopïau caled a ddosbarthwyd. Mae effeithiau cadarnhaol y llyfryn yn ddi-ben-draw; erbyn hyn roedd gan y lleisiau absennol oedd gynt yn gwneud dim ond gwrando ar broblemau’r rhai roedden nhw’n gofalu amdanyn nhw le i gael eu gwrando. Cafodd y rhwystrau a’r unigedd yr oedd y grŵp lleiafrifol yn eu teimlo eu chwalu a bydd gofalwyr maeth y dyfodol yn sicr ar eu hennill yn sgil ‘Men Who Care’ a gweithiau tebyg gan GwaithStori a’r Rhwydwaith Maethu am flynyddoedd i ddod.
Mae ‘Digital Stories’, sef prosiect tebyg a drefnwyd gan dîm GwaithStori yn defnyddio delweddau llonydd a ffotograffau ochr yn ochr â llais rhywun go iawn sy’n adrodd ei stori ei hun. Stori am ei brwydr gyda chanser, er enghraifft, oedd stori Rhian. Cafodd ei gosod ar wefan GwaithStori fel podlediad i’w lawrlwytho ac felly mae ar gael yn hawdd i’r nifer fawr o bobl a theuluoedd y mae canser wedi bod yn effeithio arnyn nhw neu’n dal i effeithio arnyn nhw. Mae tîm GwaithStori wedi gwneud ystod eang o lyfrynnau i’w lawrlwytho a storïau digidol sydd ar gael ar y wefan (www.storyworksglam.co.uk). Y peth trawiadol am brosiect GwaithStori yw bod gan y bobl go iawn yma awydd cryf i rannu eu storïau; maen nhw am helpu eraill sy’n mynd drwy anawsterau tebyg. Mae prosiectau GwaithStori wedi gweld llwyddiant aruthrol ar draws y 13 blynedd y mae Karen Lewis wedi bod yn rhan ohono, ond dylai’r gwir lwyddiant gael ei deimlo mewn gwirionedd gan y bobl real sydd wedi rhannu eu storïau teimladwy oherwydd "Mae storïau’n bywyd go iawn yn werthfawr ac nid yw’n hawdd eu rhannu."