Mae Goleufa Cymru’n un o chwe Goleufa beilot ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd sy’n cael eu hariannu gan Gynghorau Cyllido Addysg Uwch, Cynghorau Ymchwil y Deyrnas Unedig ac Ymddiriedolaeth Wellcome. Canolfannau cydweithredol sydd wedi'u lleoli mewn prifysgolion yw’r chwe Goleufa ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd ac maen nhw’n helpu i adeiladu’r gallu i wneud gwaith ymgysylltu cyhoeddus ledled y Deyrnas Unedig, ei gefnogi, ei gydnabod a’i wobrwyo.
Mae Goleufa Cymru’n bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Morgannwg, Amgueddfa Cymru - National Museum Wales, Techniquest a BBC Cymru Wales. Mae ystod eang o sefydliadau’n cymryd rhan i helpu i newid diwylliant y prifysgolion, gan gynnwys Swyddfa’r Oleufa, y Bwrdd Rheoli, y Grŵp Cynghori ar Brosiectau a Hyrwyddwyr Ymgysylltu Cyhoeddus.